PO BOX 69, Pontypridd, CF37 9AB



Prifysgol y Saint

Tuesday 07. August 2012

Ni ellir dibynnu ar Fuchedd Illtud a sgrifennwyd chwe chanrif wedi ei farw, ond yn ffodus i ni ceir llawer amdano mewn Bucheddau cynharach, yn arbennig Buchedd Samson, o Dol, Llydaw. Bu Illtud byw rywle oddeutu 470 - 530 OC, cyfnod heddychlon yn hanes y Celt a'r Sacson, yn dilyn buddugoliaeth Arthur ym mrwydr Baddon.

Yr oedd yn gyfnod o wareiddiad sefydlog, a chafodd Illtud addysg glasurol Rufeinig, a milwrol. Gydag enciliad y Rhufeiniaid, ar y Cyfandir llenwyd y gwacter addysgol a grëwyd gan ddiflaniad y ddarpariaeth ddinesig gan y mynachlogydd. Bu Illtud ar y blaen i'r datblygiad hwn.

Enciliodd i stâd y teulu yn Llanilltud Fawr - Hodnant oedd yr hen enw - lle sefydlodd ysgol breswyl ddaeth yn nodedig am ei hysgolheictod. Dyma gychwyn trefn ddisgybledig o addysg ym mynachlogydd Cymru, a ledodd i Iwerddon, Iona a - maes o law - i'r Sacsoniaid. Ymhlith ei ddisgyblion oedd bechgyn a fwriadwyd ar gyfer gyrfa eglwysig yn ogystal a meibion uchelwyr y disgwylid iddynt ddychwelyd i fyd seciwlar maes o law. Un o'r rheini oedd Maelgwn Gwynedd.

Yr oedd yr addysg yn arbennig o ryddfrydig. Cawn Illtud yn ceryddu'n dyner y Samson ieuanc am ymprydio'n ormodol. Dro arall, mae'n canmol Samson am ei gymedroldeb yn yfed gwin - nid am lwyr-ymwrthod, sylwer.

Dysgai'r wyddor i blant bach drwy ei cael i drin llythrennau wedi eu torri o bren, neu asgwrn neu ifor i. Disgwyliai Illtud i'r bechgyn hyn weithio ar y tir, a dywedir iddynt, o dan ei gyfarwyddyd, atgyweirio'r morglawdd rhag i'r môr ddod i fyny i'r cwm at ei fynachlog yn Llanilltud Fawr. Dywedir iddo ddyfeisio math mwy effeithiol o aradr.

'Roedd ganddo barc0h at ddysg glasurol, ac y mae amryw o'r Bucheddau'n pwysleisio bod ysgol Illtud yn cynnig addysg gysegredig a seciwlar, gyda'r awgrym bod modd i'r disgyblion.ddewis pa un a ddymunent.

Gwelir dylanwadau rhyddfrydig yr "heretic" Pelagius ar yr addysg. 'Roedd Pelagius yn ymwrthod â'r syniad o bechod gwreiddiol gan bwysleisio rhyddid ewyllys a gallu'r unigolyn i wella ei hun yn ysbrydol drwy ei ymdrechion ei hun. 'Roedd hyn yn groes i ddiwinyddiaeth Eglwys Rufain a ddadleuai mai trwy gymorth yr Ysbryd Glân yn unig yr oedd cael achubiaeth.

Anfonodd y Pab Celestine Garmon o Auxerre i Brydain i ddileu "heresi" Pelagius yn 429 OC. Prawf, dybiaf i, o fywiogrwydd syniadaeth grefyddol a deallusol Prydain yn y cyfnod hwn. I'r traddodiad a'r dylanwadau hyn y perthynai Illtud.

Yr oedd, hefyd, yn groesffordd arall - gydag olion yr hen dderwyddaeth heb lwyr ddiflannu o'r tir. Yn ôl Buchedd Samson "yr oedd [Illtud] y mwyaf dysgedig o'r holl Frythoniaid yn yr Hen Destament a'r Testament Newydd, ac ymhob math o athroniaeth ... ac o dras, y derwydd mwyaf doeth, a chanddo wybodaeth o'r dyfodol." Mentraf awgrymu ei fod yn parchu'r hen draddodiadau, hefyd.

Yn Llanilltud Fawr addysgodd nifer o'r Seintiau Celtaidd, yn eu plith dri a aeth i Lydaw - Samson i Dol, Gildas, a Pheilyn a roes ei enw i Saint-Pol-de-Leon. Am y canrifoedd wedi hynny, sef o'r chweched i'r nawfed ganrif dywedir fod yr eglwys yn Llydaw lawer uwch ei statws deallusol na'r eglwys yng Nghymru. Samson gaiff y clod am hynny a'r addysg a gafodd yn ysgol Illtud yn Llanilltud Fawr.

Gildas oedd y ffigur nodedig arall. Yr oedd Illtud yn perthyn i draddodiad o fawrygu iaith a sgrifennu cain. Parhaodd y cyfnod o barchu arddull a llenyddiaeth dda, ac yr oedd ym Mro Mrogannwg yr hamdden a'r dysg i'w feithrin cyn ddylanwad y Sacsoniaid dreiddio'n nes i'r gorllewin. Trosglwyddodd Illtud hyn i'w ddisgyblion, yn arbennig i Gildas y bu ei Ladin gwreiddiol a bywiog yn ei De excido et conquestu Britanniæ yn ddylanwad wedyn ar fynaich Gwyddelig - a Sacsonaidd yn fwy diweddar eto.

Gelwid chweched ganrif yr Eglwys Geltaidd yn "Oes y Saint". Mae'n debyg mai gwir ystyr y gair "sant" bryd hynny oedd gwr dysgedig, Cristion, wedi ei hyfforddi mewn sefydliad mynachaidd. Y twf cyflym yn eu niferoedd a roddodd yr enw "Oes y Saint" i'r cyfnod. Yng ngeiriau Anna Vezmeur, "Pwy na all ddywedyd yn dda am yr hyn a ddysgwyd i'r bobol ifanc ganddynt?"

Gwyn Griffiths

(First published in the Morning Star 8.8.12)








<<< HOME -- Archive >>>


Welsh Communist Party,
PO BOX 69, Pontypridd, CF37 9AB
Email: Contact Us